Cofnodion cyfarfod:
Teitl y Grŵp Trawsbleidiol: |
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bysgodfeydd a Dyframaethu |
Dyddiad y cyfarfod: |
16 Medi 2024 |
Lleoliad: |
ar-lein |
Enw: |
Teitl / Sefydliad: |
|
Mabon ap Gwynfor |
Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol |
|
Siôn Edwards |
Cyfieithydd ar y Pryd |
|
Helen Duggan |
Seafish, Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol |
|
Jon Parker |
Aquaculture Industry Wales (AIW) |
|
James Wilson |
Diwydiant cregyn gleision Menai |
|
Lewis Le Vay |
Prifysgol Bangor |
|
Meg Haines |
Câr-y-Môr |
|
Jane Roche |
Catch of the Day |
|
Andrew Tait |
Cenhadaeth y Pysgotwyr |
|
Justin Whitford |
International Aqua Tech Ltd (aelod o AIW) |
|
Julie Hill |
Lobster Pot |
|
Jack James |
Pontus Research |
|
David Fletcher |
Ymgynghorydd ym maes ymchwil a datblygu |
|
Aoife Martin |
Seafish |
|
Lynn Gilmore |
Seafish |
|
Jesse Drake |
Seafish |
|
Graham Black |
Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Bysgod Môr Cymru ac Aelod o Fwrdd Seafish |
|
David Jarrad |
Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr (SAGB) |
|
Paul Howes |
Prifysgol Abertawe |
|
Lissa Clayton |
Syren Shellfish |
|
Jim Evans |
Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA) |
Enw: |
Teitl: |
|
Vikki Howells |
Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon |
|
Cefin Campbell |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru |
|
Sam Rowlands |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Gogledd Cymru |
|
Samuel Kurtz |
Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro |
|
Llyr Gruffydd |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Gogledd Cymru |
|
Laura Jones |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru |
|
Natasha Asghar |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru |
|
Rhys ab Owen AS |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Canol De Cymru |
|
Adam Price |
Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr |
|
Mark Isherwood |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Gogledd Cymru |
|
Luke Fletcher |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Gorllewin De Cymru |
|
Rhianon Passmore |
Aelod o’r Senedd dros Islwyn |
|
Darren Millar |
Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd |
|
Peredur Owen Griffiths |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru |
|
Heledd Fychan |
Aelod o’r Senedd yn cynrychioli Canol De Cymru |
|
|
|
|
Croesawodd Mabon ap Gwynfor bawb i'r cyfarfod, gan ymddiheuro am yr amser sydd wedi mynd heibio ers y cyfarfod blaenorol. Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 eu cymeradwyo. Cynigiodd Mabon ap Gwynfor ei fod ef yn parhau i Gadeirio’r grŵp, gan gadarnhau nad oedd unrhyw enwebiadau eraill wedi dod i law, nac unrhyw wrthwynebiadau wedi'u mynegi. Diolchwyd i Seafish am wasanaethu fel Ysgrifenyddiaeth y grŵp. Bydd yn parhau i gyflawni’r rôl hon.
Rhoddodd Jon Parker ddiweddariad ar ran Aquaculture Industry Wales. Roedd y pynciau y soniwyd amdanynt yn cynnwys gwaith ar gimychiaid pigog, gwaith ymchwil a gweithgarwch sy'n cael ei arwain gan Glwstwr Busnes y De-orllewin, uwchsgilio, a’r broses o ddenu newydd-ddyfodiaid. Tynnwyd sylw at yr angen am gydraddoldeb o ran cyllid a gwell dealltwriaeth o'r effaith gadarnhaol y gall cydweithio rhwng diwydiant a chymunedau ymchwil ei chael.
Yn ôl James Wilson, er bod clwstwr Bangor ar lwybr gwahanol, mae’n rhannu'r un gwerthoedd ag AIW. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud â Phrifysgol Bangor, Seafish a rhanddeiliaid allweddol eraill yn parhau, a’r nod yw datblygu gwaith ymchwil a chydweithio ar y rhwystrau, y cyfleoedd a'r manteision sydd ynghlwm wrth gynyddu cynhyrchiant. Mae angen ailsefydlu’r gallu i gael mynediad diogel a sefydlog i'r farchnad, a hynny er mwyn cydbwyso'r cyflenwad a'r galw.
Rhoddodd Aoife Martin gyflwyniad ar y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru gan Seafish i gefnogi'r sector dyframaeth, ac ar gynhyrchion a gwasanaethau perthnasol ehangach Seafish. Roedd y prif bwyntiau’n cynnwys y canlynol: · Mae James Wilson a Lewis Le Vay yn cynrychioli diwydiant cregyn gleision y Fenai yn y Gweithgor Rhanddeiliaid ar Bysgod Cregyn, sy'n gweithio ar wella ansawdd dŵr i gefnogi twf yn niwydiant dyframaeth y DU; · Mae’r Fenai wedi’i chynnwys yn y gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu dealltwriaeth ynghylch gwasanaethau ecosystem a buddion lles cyhoeddus, a hynny fel bod llunwyr polisi a defnyddwyr yn deall y potensial; · Mae dulliau arloesol o ddefnyddio cregyn gleision yn cael eu harchwilio er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gynyddu'r galw; · Mae Seafish yn cydweithio â Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) er mwyn ceisio ehangu'r data ar ymchwil economaidd a pherfformiad sydd ar gael; ac · Mae 'map ffordd' ar gyfer sicrhau cadwyn gyflenwi wydn ar gyfer bwyd môr yng Nghymru yn cael ei ddatblygu, ac mae’r map ffordd hwn yn destun mewnbwn gan y diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru.
Gwahoddodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i rannu eu sylwadau, a llywiodd drafodaeth agored ar ddyframaeth yng Nghymru. Roedd y pynciau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys y canlynol: · Cyfleoedd twf a ddaw yn sgil systemau dyframaethu ail-gylchdroi (RAS); · Diffyg cyllid a chyfyngiadau ar gyllidebau blynyddol; · Cytundebau gwleidyddol sy'n effeithio ar fynediad i farchnadoedd yr UE; · Heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio morol a gwasgfa ofodol; · Gwella strwythur llywodraethu Llywodraeth Cymru ym maes pysgodfeydd; · Cyfleoedd i Gymru arwain mewn rhai meysydd, gan fod y buddsoddiad sy’n ofynnol yn gymharol fach; · Diffyg strategaeth glir ar gyfer y diwydiant bwyd môr yng Nghymru, a'r posibilrwydd y gall y 'map ffordd' a grybwyllir uchod ddarparu ffocws ar gyfer gweithredu sydd i’w groesawu. Awgrymodd y Cadeirydd ei fod yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ar ran y Grŵp Trawsbleidiol, er mwyn codi'r materion a nodwyd a gofyn am ymateb. Cadarnhaodd bawb y byddent yn croesawu'r cam hwn. Gwahoddwyd pawb i anfon manylion yr heriau allweddol y dylid eu cynnwys yn y llythyr at mabon.ap.gwynfor@senedd.cymru, a hynny erbyn dydd Gwener 20 Medi.
Nodwyd manylion yr Aelodau o'r Senedd a oedd yn absennol o’r cyfarfod hwn ac o gyfarfodydd blaenorol y grŵp trawsbleidiol. Awgrymwyd y dylai’r agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf gynnwys cyflwyniad ynghylch 'Dyfodol Ein Bwyd Môr: Map Ffordd ar gyfer Cadwyn Gyflenwi Bwyd Môr Cymru'. Diolchodd Mabon ap Gwynfor i bawb am ddod ac am gymryd rhan yn y drafodaeth. Daeth y cyfarfod i ben.
Camau i’w cymryd: 1. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn rhannu’r sleidiau ar gyfer cyflwyniad Aoife Martin gyda'r rhai a oedd yn bresennol, a hynny ar gais. 2. Bydd Aoife Martin a Jack James yn cysylltu â’i gilydd mewn perthynas â’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Ngogledd Cymru o ran archwilio’r defnydd o gregyn gleision fel cynhwysyn cynaliadwy ar gyfer porthiant dyframaeth. 3. Dylai pobl anfon manylion ynghylch yr heriau allweddol y dylid eu cynnwys yn llythyr y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru erbyn dydd Gwener 20 Medi. 4. Bydd y Cadeirydd yn cynnig dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfod nesaf.
|